blank
bla nk
blank

Newyddion diweddara’

01 Ebrill 2010
Gweddi ar gyfer y Pasg
Cliciwch yma i lawrlwytho'r Gweddi ar Gyfer y Pasg ar ran Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill gan y Gwir Barchedig Barry Morgan, Archesgob Cymru.

19 Chwefror 2009
Pre-order your copy of No Room To Live by Wynford Ellis Owen
 

On a night like this

No Room to Live offers a positive way out from the hell, told through the personal experiences and thoughts of a high profile former addict, Wynford Ellis Owen, who is now the Chief Executive of the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs.

This is a personal reflection, and one that will appeal to anybody who wishes to escape from addiction but feels hopelessly trapped. The book is written with warmth and humour by a man who had it all, lost it all, and then, after much soul searching, successfully found lasting freedom from his own demons. If he did it, so can you...

Pre-order your copy now...

15 Chwefror 2010
Winston Churchill Fellowship

Cymrodoriaeth Winston Churchill yn cefnogi Prosiect Adferiad Alcohol Caerdydd
Mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr yr elusen Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yng Nghaerdydd, wedi cael ei ddewis i dderbyn Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill i roi’r cyfle iddo ymweld â nifer o ganolfannau adferiad cymunedol newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae’r canolfannau yn sefyll allan oherwydd eu bod wedi profi llwyddiant hirdymor yn adfer pobl sy’n ddifrifol gaeth i alcohol a phroblemau cyffuriau eraill.

Mae’r rhwydwaith o ganolfannau wedi cael eu lleoli yn Vermont, Connecticut a Philadelphia ac fe fydd ymweld â’r canolfannau hyn yn helpu Wynford gyda syniadau am sut i greu diwylliant ôl-ofal dda i gleifion yn y gwasanaethau mae e yn sefydlu fel rhan o’r ganolfan driniaeth, Yr Ystafell Fyw Caerdydd, sy’n gobeithio agor ym 2011.
 
Mae Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill yn gofnod cenedlaethol ac yn deyrnged byw i Syr Winston, fu farw ym 1965. Nod yr Ymddiriedolaeth yw annog hyrwyddo a lledaenu addysg ar draws y byd er budd dinasyddion Prydain. Dylai’r addysg fod yn hyfyw ac yn werth ei wneud, ac o fudd i’r gymuned pan ddychwelant i’r wlad hon. Mae tua 100 o gymrodoriaethau yn cael ei rhoi ar gyfer amrywiaeth o brosiectau bob blwyddyn.
 
Dywedodd Wynford Ellis Owen, “Mae’r canolfannau yn yr Unol Daleithiau wedi profi llawer o lwyddiant ac os gallwn ailadrodd y llwyddiannau yng Nghymru yna fe fyddai’n helpu gyda’r problemau cymdeithasol enfawr cyfredol sy’n datblygu o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
 
“Mae derbyn Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill yn hwb mawr i’r Prosiect Ystafell Fyw yng Nghaerdydd. Yn ystod fy nhaith fe fyddai’n ymweld ag amrywiaeth o weithgareddau sy’n cefnogi adfer yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys rhaglenni ffydd. Gobeithio y medraf weithio ochr yn ochr â William L White MA, academydd byd enwog ac arbenigwr yn y maes camddefnyddio sylweddau sydd wedi cytuno i fod yn noddwr i mi.
 
“Fe fydd y buddion sy’n dod o ennill y Gymrodoriaeth hon yn fy ngalluogi i sefydlu canolfan adferiad yng Nghaerdydd erbyn 2011. Yna, gyda chydweithrediad pobl eraill, gobeithiwn ddarparu canolfannau tebyg yn rhai o brif drefi Cymru fydd yn cynnig adferiadau parhaus, yn rhydd o  groes-gaethineb. Fe fydda i hefyd yn ffilmio dyddiadur fideo fydd yn adnodd gwerthfawr a parhaol yn dangos effeithlonrwydd y syniadau arloesol hyn.”

29 January 2010
Gwnewch wahaniaeth!
Lansio E-ddeiseb yn cysylltu ariannu’r Urdd â gwahardd alcohol
 
Alcohol, it's no joke
Gwnewch wahaniaeth.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i Eisteddfod yr Urdd yn y dyfodol ar yr amod na werthir alcohol ar faes yr Eisteddfod. Pleidleiswch nawr!

vote against the urdd selling alcohol

Yn dilyn penderfyniad Urdd Gobaith Cymru i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn Llanerchaeron, Ceredigion ym mis Mai 2010, mae e-ddeiseb wedi cael ei lansio yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i Eisteddfod yr Urdd yn y dyfodol ar yr amod na werthir alcohol ar faes yr Eisteddfod.

Ar anogaeth Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, mae’r e-ddeiseb yn gyfle i unrhyw un sydd yn poeni am y penderfyniad i gofrestru eu pryderon gyda’r Cynulliad. Gellir arwyddo’r ddeiseb yma.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Rydym yn gwrthwynebu penderfyniad yr Urdd i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd. Mae’r gwrthwynebiad yn seiliedig ar y ffaith fod hon yn ?yl ar gyfer plant a phobl ifanc ac felly mae oedran y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn is na’r oed cyfreithiol i yfed alcohol. Dengys tystiolaeth fod plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddod yn yfwyr ac yn yfwyr trwm po fwyaf mae cymdeithas yn normaleiddio'r defnydd o alcohol – sef yr union beth mae’r Urdd yn ei wneud trwy gyflwyno alcohol i faes yr Eisteddfod. Fyddai’r Urdd yn hyrwyddo gwerthu tobacco ar faes yr Eisteddfod?

“Gobeithiwn gyda’r e-ddeiseb hon berswadio Llywodraeth y Cynulliad i ailystyried ariannu’r digwyddiad hyd nes bydd yr Urdd yn gwrthdroi ei benderfyniad i werthu alcohol yn yr Eisteddfod. Mae’n ffaith frawychus bod plant Cymru yn yr oed 11-15 yn defnyddio mwy o alcohol na phlant o’r un oedran yn yr un wlad arall yn Ewrop. Mae hyn yn amharu ar eu hiechyd, eu rhoi nhw mewn peryglon o bob math ac yn difrodi eu gobeithion am y dyfodol. Mae hyn yn hollol groes i amcanion a bwriadau clodwiw’r Urdd.

“Dylai’r Urdd, fel mudiad sy’n derbyn arian cyhoeddus, weithredu i gadarnhau polisïau’r Cynulliad ar iechyd a ffitrwydd nid gweithredu yn eu herbyn. Galwn ar y Cynulliad i wneud safiad ar y mater hwn gan fod penderfyniad yr Urdd yn tanseilio strategaethau iechyd y Cynulliad drwy gadarnhau arferion, megis yfed alcohol, sy’n groes i’r nod o hyrwyddo iechyd a lles. Beth yw cyfiawnhad yr Urdd dros danseilio polisi cyhoeddus?

“Os ydi’r Urdd yn gwrthod newid meddwl ar y mater hwn, yna efallai y bydd rhoi pwysau ar y Cynulliad i ystyried peidio cyllido’r mudiad, yn cael gwell effaith ar ei arweinwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn. ‘Roedd yr Urdd, a dylai fod, yn fudiad cyfrifol sy’n rhoi lles plant a phobl ifanc o flaen popeth arall. Dyw’r ethos hwn yn amlwg ddim yn bodoli bellach wrth galon y mudiad ac mae’n rhaid i’r penderfyniad gael ei wrthdroi.”

Disgrifiodd Wynford Ellis Owen yr E-ddeiseb fel “Ymdrech munud-olaf i achub yr Urdd rhag ei hunan”.

29 January 2010
Cerddi gan y ddiweddar Angharad Jones
Cliciwch ar 'Pethau Ysbrydol' ar gyfer rhai cerddi gan Angharad Jones.

10 Ionawr 2009
Ail encil : Un dydd ar y tro

On a night like this Bydd ail encil y Cyngor, yng Ngholeg Trefeca, Aberhonddu, yn benwythnos ar gyfer 30 person gyda'r pwyslais ar fyw "un dydd ar y tro". Mae'n gyfle i ddianc o'r busnes o fyw ac i roi amser i'ch hunan ac i'ch bywyd chi.

Am fwy o wybodaeth am yr encil neu am enciliadau yn y dyfodol cysylltwch â'r Cyngor ar
gwybodaeth@cyngorcymru.org.uk

Lawrlwythwch rhaglen yr encil

04 Rhagfyr 2009
Ruth Andrews objects to Dr David Best’s lecture.
Ruth Andrews, a Psychoanalytical Psychotherapist from Birmingham, attended the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs’ Inaugural Annual Lecture at the Welsh Assembly in Cardiff on 16th June, 2009. The Lecture, delivered by Dr David Best from the University of the West of Scotland on ‘Evidence of hope – what do we know about sustained recovery from alcohol and drug addiction?’, caused controversy.
 
In a letter to David Best, Ruth said:
 
‘On 16th June I attended the lecture you delivered in Cardiff. You presented data from research conducted in Birmingham and made some powerful comments about the staff working in the drug services. I would like to suggest that your comments regarding all staff and service users were based on omission of fact not on substantive data. I have therefore collated data and compiled a document illustrating the work that has been developed over a number of years by the Tier 4 service. Dates, data and comments by service users are included in order to verify the text.
 
Ruth goes on ‘Your arguments regarding the use of Methadone script is applicable to Tier 3 services and this should have been made clear. The one thing that is very evident with service users we work with, prior to and post residential rehabilitation, is the hope they have and their appreciation of being able to engage in a difficult but challenging life of real growth’.
 
At the time, Wynford Ellis Owen, chief executive of the Welsh Council, said that David’s lecture was both thought-provoking and informative. He wrote “I was left thinking, at last someone is talking sense here and he’s backed it up with solid evidence – yes, treatment is not good enough and treatment itself is not enough – it is not sufficient in its current form to support recovery. David, however, recognised that recovery does happen but that it happens in community settings where indigenous resources provide the basis for the recovery journey.”

You can access Ruth Andrew’s paper in response to David’s lecture by clicking here


The lecture, which was hosted by Gareth Jones OBE, AM, was recorded and can be viewed by clicking here.

The Welsh Council’s next Annual Lecture will be held at the Welsh Assembly building in Cardiff Bay on 23rd June, 2010. More information can be accessed on our website from January, 2010 onwards.


20 Hydref 2009
Rhoi’r neges ar-lein a gosod sylfeini Yr Ystafell Fyw
Cynhelir y digwyddiad codi arian cyntaf er budd prosiect diweddaraf Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd am 7 o’r gloch ar nos Sul 25 Hydref. Bydd yr arian a godir o sioe gerdd Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn mynd at sefydlu Ystafell Fyw Caerdydd, canolfan driniaeth dyddiol, dwyieithog am ddim fydd yn torri cylch dibyniaeth. Mewn amser, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob prif dref ar draws Cymru. Darllenwch mwy.


30 Medi 2009
Cam Nesaf yn y Frwydr i Gadw'r Urdd yn ddi-alcohol

Fe fydd papur yn nodi’r rhesymau pam na ddylai’r Urdd gyflwyno alcohol yn ei Eisteddfodau yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Rheoli Eisteddfod yr Urdd dydd Mercher 30 Medi gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Cyflwynir y papur gyda’r gobaith y bydd yr Urdd yn newid ei feddwl ar y polisi arfaethedig o gyflwyno alcohol yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010. Ategwyd yr alwad gan brif enwadau Cristnogol Cymru, sy’n cynrychioli dros 75,000 o aelodau a phlant;  Archesgob Cymru, y Parchedicaf Dr Barry Morgan, Esgob Edwin Regan, Esgob Wrecsam, aelodau o Gyngor Aml-ffydd Cymru, Y Barnwr Michael Farmer, y Gwir Anrh. Dafydd Wigley ac aelodau'r Urdd eu hunain.

Y cynnig hwn, sy’n cynnwys ffeithiau a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am y camddefnydd o alcohol ym Mhrydain heddiw, yw’r cam nesaf yn y frwydr yn dilyn y condemniad o fwriad yr Urdd i ganiatáu gwerthu alcohol yn Eisteddfod yr Urdd gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, pan gyhoeddwyd y newyddion yn ystod Eisteddfod Caerdydd ym mis Mehefin.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Gyda’r papur hwn, rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Rheoli yn ddigon call a dewr, o wrando ar ein dadleuon grymus a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, i newid eu meddyliau ar y polisi. Rwy’n hyderus y byddwn ni’n llwyddiannus ac y gallwn adfer hygrededd yr Urdd fel mudiad cyfrifol sy’n rhoi budd plant a phobl ifanc yn gyntaf. 

 “Mae’r frwydr hon yn mynd gam ymhellach na’r ddadl arferol am gamddefnyddio alcohol yn ein Cymdeithas. Bwriad y frwydr hon yw amddiffyn iechyd corfforol a meddyliol ein plant a phobl ifanc. Ar adeg pan fod 12 miliwn o bobl Prydain yn gor-yfed - a’r broblem yn waeth yng Nghymru, gyda phobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed yn defnyddio mwy o alcohol na phobl ifanc o’r un oedran mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop - mae’r penderfyniad yn anghyfrifol ac yn hollol groes i amcanion a bwriadau clodwiw’r Urdd.” Darllenwch mwy.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r Llythyr Agored at Bwyllgor Rheoli Urdd Gobaith Cymru

25 Hydref 2009
Clap creadigol i enillwyr cart?n yn Neuadd Dewi Sant
Cynhaliwyd y digwyddiad codi arian cyntaf er budd prosiect diweddaraf Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar ddydd Sul 25 Hydref. Fe fydd yr arian a godir o sioe gerdd Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn mynd at sefydlu Ystafell Fyw Caerdydd, canolfan driniaeth ddyddiol, ddwyieithog am ddim fydd yn torri cylch dibyniaeth. Mewn amser, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob prif dref ar draws Cymru.

Ar y noson hefyd cyhoeddwyd enillwyr cystadleuaeth cartwnau Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.

Wedi ei rannu i mewn i dri gr?p o oedrannau gwahanol: o dan 11 oed, 11-18 oed a 18+, roedd y gystadleuaeth yn gyfle i blant a phobl ifanc rhoi diweddglo a sylwadau eu hunain i mewn i’r cartwnau. O syniadau gwreiddiol gan bobl ifanc yng Ngwaelod-y-garth ac Efail Isaf, y cartwnydd Cen Williams gynlluniodd pedwar math gwahanol o gartwnau, yn dangos nifer o senarios gwag ‘beth ddigwyddodd nesaf’, yn cynnwys effeithiau gormod o alcohol a chyffuriau eraill. Fe fydd cyfle i weld y cartwnau ar wefan y Cyngor www.cyngorcymru.org.uk/cystadleuaeth.html

Enillwyr y gystadleuaeth (a’u gwobrau) wrth ddangos talent greadigol a digon o ddychymyg oedd:

Emyr Morris-Jones, (18+) Tregarth, Bangor - 2 docyn i weld gem rygbi rhyngwladol Cymru V Argentina
Erin Davies (11-18) Pen Y Maes, Fflint – beic newydd
Llio (o dan 11) Chwilog, Pwllheli – Mynediad am ddim i Bortmeirion i 2 oedolyn a 3 o blant
Connor J Watkins (11-18) Abertawe – penwythnos i 2 i Ganolfan yr Urdd, Caerdydd
Megan Louise Davies (11-18) Pontarddulais - 2 docyn i weld y sioe ‘Never Forget’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Carys Davies Jones (o dan 11) Yr Eglwys Newydd, Caerdydd – beic newydd
Emyr Morris-Jones (18+) Tregarth, Bangor - 2 docyn dwyffordd o’r Gogledd i’r De neu o Dde i Ogledd Cymru
Erith Davies (18+) Yr Eglwys Newydd, Caerdydd – Pryd o fwyd i 2 yn adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dywedodd Wynford Ellis Owen, prif weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth cart?n. Roedd hi’n wych gweld gymaint o ymgeiswyr ac mae’n galonogol iawn darllen y sylwadau positif a doniol. Wrth gwrs, nid jôc yw taclo materion dibyniaeth pobl ifanc Cymru ar alcohol a chyffuriau eraill ond rwy’n hyderus y gallwn helpu’r bobl ifanc hynny i wneud y dewisiadau cywir mewn bywyd wrth eu haddysgu am beryglon dibyniaeth. “


20 Hydref 2009
Rhoi’r neges ar-lein a gosod sylfeini Yr Ystafell Fyw
Cynhelir y digwyddiad codi arian cyntaf er budd prosiect diweddaraf Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd am 7 o’r gloch ar nos Sul 25 Hydref. Bydd yr arian a godir o sioe gerdd Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn mynd at sefydlu Ystafell Fyw Caerdydd, canolfan driniaeth dyddiol, dwyieithog am ddim fydd yn torri cylch dibyniaeth. Mewn amser, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob prif dref ar draws Cymru.

Fe fydd y noson yn nodi dwy garreg filltir arall i Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Nid yn unig maen nhw’n lansio eu gwefan newydd, www.cyngorcymru.org.uk, ond fe fyddan nhw hefyd yn cyhoeddi enillwyr eu cystadleuaeth cartwnau.

Wedi ei rannu i mewn i dri gr?p o oedrannau gwahanol: o dan 11 oed, 11-18 oed a 18+, roedd y gystadleuaeth yn gyfle i blant a phobl ifanc rhoi diweddglo a sylwadau eu hunain i mewn i’r cartwnau. O syniadau gwreiddiol gan bobl ifanc yng Ngwaelod-y-garth ac Efail Isaf, y cartwnydd Cen Williams gynlluniodd pedwar math gwahanol o gartwnau, yn dangos nifer o scenarios gwag ‘beth ddigwyddodd nesaf’, yn cynnwys effeithiau gormod o alcohol a chyffuriau eraill. Fe fydd cyfle i weld y cartwnau ar wefan y Cyngor www.cyngorcymru.org.uk/cystadleuaeth.html

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill,  “Rwyf yn hynod ddyledus i Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn am gefnogi ein hymgyrch i godi arian tuag at y prosiect newydd hwn. Mae perfformiad y noson yn addo bod yn ddigwyddiad gwych - noson i’w chofio i unrhyw un sy’n gwerthfawrogi talentau cerddorol yng Nghymru.

“Mae prosiect Y Stafell Fyw Caerdydd yn fenter gyffrous i ni. Ein bwriad yw helpu pobl sydd â phroblemau yn ymwneud ag alcohol, cyffuriau (boed anghyfreithlon neu gyfreithlon) ac unrhyw ddibyniaethau eraill, mewn ffordd effeithlon, gyda chanlyniadau positif hir dymor.”


30 Medi 2009
Cam Nesaf yn y Frwydr i Gadw'r Urdd yn ddi-alcohol

Fe fydd papur yn nodi’r rhesymau pam na ddylai’r Urdd gyflwyno alcohol yn ei Eisteddfodau yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Rheoli Eisteddfod yr Urdd dydd Mercher 30 Medi gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Cyflwynir y papur gyda’r gobaith y bydd yr Urdd yn newid ei feddwl ar y polisi arfaethedig o gyflwyno alcohol yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010. Ategwyd yr alwad gan brif enwadau Cristnogol Cymru, sy’n cynrychioli dros 75,000 o aelodau a phlant;  Archesgob Cymru, y Parchedicaf Dr Barry Morgan, Esgob Edwin Regan, Esgob Wrecsam, aelodau o Gyngor Aml-ffydd Cymru, Y Barnwr Michael Farmer, y Gwir Anrh. Dafydd Wigley ac aelodau'r Urdd eu hunain.

Y cynnig hwn, sy’n cynnwys ffeithiau a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am y camddefnydd o alcohol ym Mhrydain heddiw, yw’r cam nesaf yn y frwydr yn dilyn y condemniad o fwriad yr Urdd i ganiatáu gwerthu alcohol yn Eisteddfod yr Urdd gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, pan gyhoeddwyd y newyddion yn ystod Eisteddfod Caerdydd ym mis Mehefin.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Gyda’r papur hwn, rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Rheoli yn ddigon call a dewr, o wrando ar ein dadleuon grymus a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, i newid eu meddyliau ar y polisi. Rwy’n hyderus y byddwn ni’n llwyddiannus ac y gallwn adfer hygrededd yr Urdd fel mudiad cyfrifol sy’n rhoi budd plant a phobl ifanc yn gyntaf. 

 “Mae’r frwydr hon yn mynd gam ymhellach na’r ddadl arferol am gamddefnyddio alcohol yn ein Cymdeithas. Bwriad y frwydr hon yw amddiffyn iechyd corfforol a meddyliol ein plant a phobl ifanc. Ar adeg pan fod 12 miliwn o bobl Prydain yn gor-yfed - a’r broblem yn waeth yng Nghymru, gyda phobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed yn defnyddio mwy o alcohol na phobl ifanc o’r un oedran mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop - mae’r penderfyniad yn anghyfrifol ac yn hollol groes i amcanion a bwriadau clodwiw’r Urdd.” Darllenwch mwy.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r Llythyr Agored at Bwyllgor Rheoli Urdd Gobaith Cymru.

03 Awst 2009
Camddefnyddio Alcohol : Camau i’w Cymryd...
Undeb Annibynwyr Cymraeg: Cynhadledd Newyddion

Pabell yr Eglwysi : Y Maes 11.30 bore Mawrth, 4 Awst
EMBARGO 12.00, 4 Awst 2009


Datganiad Cydenwado
Alcohol yn Eisteddfod yr Urdd (atodiad ar wahan).
Safiad Undeb yr Annibynwyr ar gamddefnydd alcohol a’r camau i’w cymryd. Gan fod y camddefnydd o alcohol yn effeithio ar iechyd a lles nifer cynyddol o bobl Cymru ac yn fygythiad i fywyd teuluol a chymdeithas yn gyffredinol, mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn galw am:

  • ddiddymu hawl archfarchnadoedd ac eraill i werthu alcohol rhad - trwy ofyn i Lywodraeth y Cynulliad (sy’n gyfrifol am iechyd) ac i Lywodraeth Prydain (materion trwyddedi) i gyflwyno deddf newydd fyddai’n gwahardd masnachwyr rhag gwerthu diodydd am lai na’r pris llawn (y Recommended Retail Price). Mae Cymdeithas y Tafarnwyr hefyd yn weld hyn yn digwydd, gan fod alcohol rhad yn cyfrannu tuag at gau dros 50 o dafarndai ym Mhrydain bob wythnos. O leia mae rheolaeth ar yfed mewn tafarndai, na cheir yn y cartref nac ar y stryd.

    • osod isafbris o 50c ar bob uned o alcohol sydd mewn diodydd. Dywed Cymdeithas Meddygon y BMA y byddai gosod y fath isafbris yn costio 23c yr wythnos yn fwy i yfwyr cymedrol, ond fe allai arwain at 10% o dorriad mewn yfed niweidiol gan arbed 100,000 o bobl rhag ymweld ag ysbytai bob blwyddyn (yn Lloegr yn unig). Mae’r BMA yn amcangyfrif y byddai’r fath mesur yn fodd i arbed miloedd o fywydau.

    • gefnogi galwad Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill i gael gwaharddiad byd-eang ar hysbysebu alcohol. Mae nifer o wledydd – fel Ffrainc, Sweden a Kenya – wedi cyflwyno gwaharddiadau llym yn barod.

    Strategaeth Alcohol
    Gan fod y camddefnydd o alcohol yn fygythiad enbyd i les a iechyd unigolion a chymdeithas, mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn lansio ymgyrch i alw am

    • waharddiad byd-eang ar hysbysebu alcohol. Mae nifer o wledydd – fel Ffrainc, Sweden a Kenya – wedi cyflwyno gwaharddiadau llym yn barod.

    • ddiddymu hawl archfarchnadoedd ac eraill i werthu alcohol rhad - trwy ofyn i Lywodraeth y Cynulliad (sy’n gyfrifol am iechyd) ac i Lywodraeth Prydain (materion trwyddedi) i gyflwyno deddf newydd fyddai’n gwahardd masnachwyr rhag gwerthu diodydd am lai na’r pris llawn (y Recommended Retail Price). Mae Cymdeithas y Tafarnwyr hefyd yn weld hyn yn digwydd, gan fod alcohol rhad yn cyfrannu tuag at gau dros 50 o dafarnai ym Mhrydain bob wythnos. O leia mae rheolaeth ar yfed mewn tafarnai, na cheir yn y cartref nac ar y stryd.

    • deddf newydd fyddai’n gosod isafbris o 50c ar bob uned o alcohol sy mewn diodydd Dywed Cymdeithas Meddygon y BMA y byddai gosod y fath isafbris yn costio 23c yr wythnos yn fwy i yfwyr cymhedrol, ond fe allai arwain at 10% o dorriad mewn yfed niweidiol gan arbed 100,000 o bobl rhag mynd i’r ysbyty bob blwyddyn (yn Lloegr yn unig). Mae’r meddygon yn amcangyfrif y byddai’r mesur yma yn unig yn fodd i arbed miloedd o fywydau.

    Rydym hefyd yn erfyn ar Urdd Gobaith Cymru i newid ei feddwl yngl?n â chaniatau gwerthu alcohol ar faes ei Eisteddfod y flwyddyn nesa. Ar adeg pan fod yfed alcohol yn broblem ddifrifol ymhlith pobl ifanc 11-15 oed yng Nghymru (waeth na’r un wlad arall yn Ewrop) ystyriwn mai gweithred hollol anghyfrifol yw darparu diod feddwl ym Mhrifwyl y plant a phobl ifanc. Mae’r Annibynwyr ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cytuno ar hyn. Rhyngddynt, mae’r ddau enwad yn cynrychioli dros 60,000 o Gristnogion Cymru – y mwyafrif llethol yn Gymry Cymraeg sy’n gefnogwyr selog i’r Urdd a’r Eisteddfod.

    Swyddog Cyfathrebu’r Undeb: Alun Lenny 0781 751 9039
    Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynrychioli tua 30,000 o aelodau a phlant mewn 450 o gapeli, y mwyafrif llethol ohonynt yn Gymry Cymraeg. Yn ogystal â’r ymgyrch uchod, mae’r Undeb wedi dechrau ymgyrchu dros hawliau pobl h?n mewn cartrefi preswyl, ac i gael unedau meddygol yng Nghymru i ofalu am milwyr o’r wlad hon a glwyfwyd yn Irac ac yn Afghanistan.

    25 Mehefin 2009

    Encil cyntaf y Cyngor...

    We’re looking forward to welcoming you to the Welsh Council’s first retreat at the St Non’s Retreat Centre in St Davids, Pembrokeshire from 28th to 30th August. We have based this weekend on a tried and tested format as operated by founder members of Alcoholics Anonymous. For more information please click here.

    14 Mehefin 2009
    Dyddiad difyr i'r calendr - Rhyddhau'r Caethion

    Mae Wynford Ellis Oweni siarad yn "Rhyddhau'r Caethion" Seminar yn Aberystwyth ar ymateb Cristnogol i broblemau Alcohol a Chyffuriau eraill ar ddydd Sadwrn 26 Medi 2009. Cliciwch yma i fynd i safle'r Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

    13 Mehefin 2009
    Sarnu enw da Eisteddfod yr Urdd

    Mae penderfyniad yr Urdd i gael trwydded i werthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd wedi  cael ei feirniadu’n hallt gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr yr Elusen, ei bod yn “warth” bod yr Urdd yn ystyried gwerthu alcohol ar y maes. “Rydw i’n arswydo at glywed y newyddion,” meddai. “Ar adeg pan fod 12 miliwn o bobl Prydain yn goryfed – a’r broblem yn waeth yng Nghymru, gyda phobl ifanc Cymru rhwng 11 a 15 mlwydd oed yn defnyddio mwy o alcohol na phobl ifanc o’r un oedran mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop – mae’r penderfyniad nid yn unig yn un ynfyd ond yn un anghyfrifol.” mwy

    Alcohol a'r Urdd : Ymateb Torf y Sul Sbesial
    Mewn gwyl yn San Clêr dros y Sul fe wnaeth cannoedd o Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin alw ar yr Urdd i ail-ystyried ei gynllun i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes yr Eisteddfod. Pleidleisiodd y gynulleidfa o tua 300 yng ngwyl y Sul Sbesial yn unfrydol i gefnogi cynnig gan aelodau ifanc 16-25 oed. Roedden nhw newydd glywed Wynford Ellis Owen, prif weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, yn cyhuddo’r Urdd o weithredu’n anghyfrifol. Dywedodd bod y camddefnydd o alcohol ymhlith pobol ifanc Cymru yn waeth nac yn yr un wlad arall yn Ewrop. (Isod: Y bleidlais unfrydol.)

    16 Mehefin 2009
    Roedd Dr David Best yn caru’r gymuned driniaeth gymaint fel y dywedodd y gwir.

    Annual lecture

    Traddodwyd Darlith Sefydlu Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau yn y Senedd, adeilad Cynulliad Cymru ym Mae Caerdydd neithiwr gan Dr David Best o Brifysgol Gorllewin yr Alban o dan y teitl - ‘Tystiolaeth o obaith : beth a wyddwn ni am wellhâd hir dymor o alcohol a dibyniaeth ar gyffuriau?’.


    Annual lecture
    Annual lecture

    Mae’r Ddarlith Flynyddol Sefydlu hon yn cyflawni un fenter bwysig o Strategaeth 3 Mlynedd Cyngor Cymru : ‘ gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill i hybu ymwybyddiaeth well o beryglon camddefnyddio sylweddion’. Cynhaliwyd y ddarlith ar y c?d gyda tair canolfan driniaeth gofrestredig yng Nghymru ; T? Brynawel (De Cymru) CAIS (Gogledd Cymru) a Rhoserchan (Canol Cymru) – pob un ag athroniaeth wahanol ynghylch trin camddefnyddio sylweddion – ond yn uno i gyd-noddi’r digwyddiad pwysig ‘ar gyfer y nod cyffredin’ o helpu dioddefwyr drwy Gymru. mwy

    Am gopi o Raglen Flynyddol y Ddarlith, ynghyd â’r testun cliciwch yma

    11 Mehefin 2009
    Tri llyffant yn nofio lawr afon....

    Cofiwch y tri llyffant yn nofio ar ddarn o goed yn yr afon ? Un yn gnweud penderfyniad i neidio mewn i’r dwr. Faint o lyffantod oedd ar ôl ar y darn pren ? Tri, wrthgwrs. Dim ond gwneud y penderfyniad i neidio mewn i’r dwr wnaeth y llyffant– wnaeth e’ ddim dilyn y peth drwyodd. mwy

    11 Mehefin 2009
    “Dylai Gwellhâd fod yn nod, nid dim ond gostwng defnydd”

    Caiff darlith sefydlu flynyddol Cyngor Cymru ar Alchol a Chyffuriau eraill ei thraddodi gan Dr David Best, Darlithydd mewn Cyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Gorllewin yr Alban yn y Senedd, Bae Caerdydd ar ddydd Mawrth, 16ed o Fehefin am 6.30pm. Caiff y ddarlith, ar y c?d gyda thair canolfan driniaeth restredig yng nghymru, T? Brynawel (De Cymru), CAIS (Gogledd Cymru) a Rhoserchan (Canolbarth Cymrus), ei chynnal gan Gareth Jones OBE, AM.

    Bydd y ddarlith, Tystiolaeth Gobaith : Beth a wyddwn am wellhâd hirdymor o alcohol a chyffuriau ? : wedi ei chadeirio gan Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, y tro cynta’ i’r Cyngor a thair canolfan driniaeth gofrestredig yng Nghymru gydweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i daclo’r drafodaeth ehangach ar sawl agwedd wahanol i therapi dibyniaeth.

    Yn ogystal â’i waith academaidd yn yr Alban, mae Dr David Best hefyd yn gweithio i’r Swyddfa Gartref yn Llundain, Llywodraeth yr Alban, Canolfan Montiro Ewropeaidd ar gyfer Cyffuriau a Chamddefnydd o gyffuriau a mentrau gwella lleol yn Glasgow a Lanarkshire. Yn Seicolegydd siartredig ac aelod o’r Gymdeithas Droseddol Brydeinig, mae wedi treulio deng mlynedd yn gweithio mewn ymchwil yn Y Ganolfan Ddibyniaeth Genedlaethol yn Athrofa Seiciatryddiaeth Llundain, yn rheoli sawl ystod o astudiaethau gweithredol i ymyrraethau cyffuriau ac alcohol i atal marwolaethau ‘n ymwneud â chyffuriau ac astudiaethau o droseddu cyffuriau. Mae hefyd wedi gweithio gydagg Awdurdod Cwynion yr Heddlu, Yr Asiantaeth Driniaeth Genedlaethol ac Uned Drosglwyddo’r Prif Weinidog.

    Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohl a Chyffuriau Eraill, , “ Mae ‘na wrthgwrs sawl ffordd wahanol ac athroniaethau ar daclo dibyniaeth ond mae’n wych gweld y tair ganolfan driniaeth yn gweithio ar y c?d yn ffurfiol am y tro cyntaf er mwyn budd cleientiau Cymraeg. Nid yw’n drafodaeth hawdd ond yn un sydd ei hangen ar Gymru ac rwy’n ddiolchgar iawn i Dr David Best am gytuno i ddarparu ein darlith sefydlu ni gan ei fod yn nod bwysig i ni fel rhan o’n strategaeth dair blynedd presennol.”

    Dywedodd Dr David Best, “Rwy’n edrych ymlaen at siarad yng Nghaerdydd gan bod maes presennol fy ymchwil a rhan gweithredu sefydliadol mewn dylanwadu ar effeithlonrwydd triniaeth oll yn berthnasol iawn. Gwn bod llawer o bwyslais ar bolisiau gostwng niwed ond credaf hefyd y dylem ni hefyd fod yn siarad am wellhâd hirdymor yn yr un frawddeg.”

    Ychwanegodd Lynn Bennoch, Prif Gyfarwyddwr, CAIS, ar ran y tair darparwr cofrestredig, “Mae gan CAIS 12 mlynedd o brofiad yn darparu gwasanaethau Detox, a 18 mlynedd yn darparu gwasanaethau gwella, mae gan D? Brynawel House 32 mlynedd o brofiad a Rhoserchan 21 mlynedd - felly rhyngom mae 83 mlynedd o brofiad !

    “Rydym ni ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o weithio tuag at ddarparu ‘ymarfer gorau’ ac agwedd mwy holistaidd tuag at driniaeth y cleientau cyffuriau ac alcohol a fydd yn cymryd y gwahanol ffyrdd o daclo dibyniaeth i ystyriaeth. Bydd y cydweithio rhwng y tri darparwr triniaeth cofrestredig yn edrych ar ffyrdd mwy hyblyg a sytematig ar gyfer triniaeth breswyl y rhai sy’n ceisio cymorth gyda’u dibyniaeth”

    Dywedodd Gareth Jones, AC, “ Rwy wrth fy modd yn gallu noddi y digwyddiad pwysig yn y Senedd ac yn falch bod y ddarlith sefydlu Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill wedi denu arbenigwr a siaradwr adnabyddus o’r fath safon â David Best. Mae’r materion o gwmpas y drafodaeth ar ddibynaieth, triniaeth a throsedd weithiau’n gymhleth ac yn anodd ond er hynny ni ddylem osgoi ein cyfrifoldeb i siarad yn agored am rai o’r atebion posib’.

    "Rwy’n ymwybodol o’r pris uchel mae caethiwed i alcohol a chyffuriau ‘n ei gael ar unigolion, teuluoedd a chymdeithas gyfan ac mae ‘n bwysig i ni ein hunain gyfleu’r negeseuon cywir hyd yn oed os yw hynnyj er enghraifft yn herio rhai diddordebau masnachol. Edrychaf ymlaen at drafodaeth newydd a mwy o gydweithio yn ein hymdrechion a’n hadnoddau yn y maes arbennig hwn."

    01 Mai 2009
    Darlith sefydlu flynyddol : Tystiolaeth o obaith : Beth wyddwn ni am wellhâd hirdymor o Alcohol a dibyniaeth ar gyffuriuau?

    Mae’r ddarlith, ar Fehefin 16 2009, i’w thraddodi gan DR DAVID BEST (Uwch Ddarlithydd mewn Caethiwed yn Adran Seiciatryddol Prifysgol Birmingham)

    Cynhelir y digwyddiad gan Gareth Jones OBE, AC ac mae’n cael ei chynnal ar y c?d gyda tair canolfan driniaeth gofrestredig : T? Bryn Awel (De Cymru) ; CAIS (Gogledd Cymru ); a Rhoserchan (Canolbarth Cymru). Download invite

    01 Mai 2009
    Cynhadledd NDSAG 2011 yn dod i Gaerdydd
    Rydym newydd dderbyn cadanrhad y bydd y Grwp Cyfeiriad Newydd yn yr Astudiaeth o Alcohol (NDSAG) yn cynnal ei gynhadledd 2011 yma yng Nghaerdydd. Mae’r gynhadledd bwysig hon yn cael ei chynnal ar ran y cyngor gan Wynford Ellis Owen, ein prif weithredwr. Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr NDSAG drwy glicio’r ddolen : www.newdirections.org.uk

    01 Mai 2009
    Cystadleuaeth cartwn!
    Dim joc, taclo materion caethiwed ieuenctid Cymru drwy gartwnau.

    Mae Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill yn lawnsio cystadleuaeth cartwn unigryw, wedi ei hanelu at godi ymwybyddiaeth ymhlith pobol ifanc Cymru am beryglon camddefnyddio alchol a chyffuriau.

    Wedi ei gynllunio gan y cartwnydd Cen Williams, mae’r pedwar cartwn ar wahân, wedi cychwyn mewn partneriaeth gyda phobol ifanc o gapeli Bethlehem, Gwaelod-y- Garth a Tabernacl, Efail Isaf, yn dangos sawl scenario ‘beth ddigwyddodd nesa?’ yn ymwneud ag efffeithiau gormod o alcohol a chyffuriau eraill.

    Mae’r gystadleuaeth ar agor tan Awst 31 2009 ac wedi ei rhannu i dri grwp oedran (dan 11, 11-18 ac 18+), yn gwahodd pobol ifanc i fewn-osod eu scenarios cloi eu hunain ar ffurf cartwn. Mae gwobrau’n cynnwys beic, ffleits a thicedi ar gyfer sioeau. Gellir lawrlwytho’r cartwnau o wefan y Cyngor yn www.welshcouncil.org.uk/cartoons.

    Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr, Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “ Mae amlygrwydd y problemau cynyddol o ddibyniaeth ymhlith pobol ifanc yng Nghymru yn gwneud darllen dychrynllyd. Fodd bynnag, dyw pregethu a gweiddi gorchmynion ddim yn ffordd o daclo’r broblem, yn arbennig gyda phobol ifanc !

    “Roeddem ni am ymwneud mewn ffordd hwyliog gyda phobol ifanc ar draws Cymru ac mae’r gystadleuaeth cartwn yn ffordd o wneud hyn. Gobeithio drwy gael eu hannog i eistedd a gwneud llun a bod yn greadigol y bydd yn helpu materion i daro tant a’u gwneud I feddwl dwywaith cyn yfed alcohol yn ormodol neu gymryd cyffuriau. Rydym hefyd yn anelu at ddangos rhai o’r cartwnau gorau ar ein gwefan fel ysbrydoliaeth I eraill.”

    Lawrlwythwch strip cartwn 1
    Lawrlwythwch strip cartwn 2
    Lawrlwythwch strip cartwn 3
    Lawrlwythwch strip cartwn 4

    01 Mai 2009
    Y math o roi sy’ heb bris arno : rhoi o’ch hun i rywun.
    Mae Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill wedi dechrau gwaith ar sefydlu canofan driniaeth ddyddiol yng Nghaerdydd sy’n cynnig triniaeth rhad ac am ddim, ddwyieithog i unrhyw un sy’n profi anawsterau ‘n ymwneud ag alcohol, cyffuriau (cyfreithlon neu ddim) neu unrhyw ddibyniaeth arall. Unwaith bod y ganolfan - – The Living Room Cardiff/Yr Ystafell Fyw Caerdydd – yn cael ei sefydlu yn 2011, byddwn yn ymestyn y gwasanaeth i drefi eraill drwy Gymru. Hoffech chi gefnogi The Living Room?

    Oes ‘na deulu unrhywle yng Nghymru heddiw sy’ heb, mewn rhyw ffordd, gael ei effeithio gan gamddefnyddio alcohol a/neu gyffuriau eraill ?

    Er gwybodaeth, bydd y flwyddyn 2010 yn flwyddyn o godi ymwybyddiaeth am y canolfanau newydd yn ogystal â bod yn flwyddyn o godi arian ar gyfer yr elusen newydd. Ydech chi’n fodlon ein helpu i sefydlu’r ganolfan newydd hon yng Nghaerdydd a meddwl am syniadau creadigol i’n helpu ni godi arian . Bydd The Living Room Cardiff/Yr Ystafell Fyw Caerdydd yn enghraiff wych o Gristnogaeth ymarferol ar waith yn y Gymru fodern.

    Mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, yn awyddus iawn i ddod i’ch capel I siarad am y fenter newydd, gynhyrfus hon. Plis cysylltwch â’r Cyngor yn uniongyrchol ar 029 2049 3895 neu drwy ebost ar info@welshcouncil.org.uk

    01 Mai 2009
    Cyfnod brysur i'r Cyngor
    Mae’n gyfnod prysur a diddorol iawn yma yn yng Nghyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Ar wahân i symud i swyddfa newydd sy’n fwy ac sy’n caniatáu inni ychwanegu ystafell gynghori i’r adnoddau sydd gennym i’w gynnig i’r cyhoedd, mae nifer o fentrau cyffrous o’n strategaeth 3 blynedd ar fin yn dod i ffrwyth.

    Yn gyntaf, ein gwefan newydd www.welshcouncil.org.uk  Rydw i wedi bod yn gweithio ar y wefan newydd ers imi gychwyn yn fy swydd fel prif weithredwr mis Hydref d’wethaf. Erbyn hyn, sut bynnag, mae’r cwbl wedi dod i fwcwl. Arni cewch ddarganfod pob math o wybodaeth am alcohol a chyffuriau eraill; ynghyd â’r arwyddion allai awgrymu fod problem yn datblygu.

    01 Mai 2009
    Cyngor Cymru yn cefnogi Alban...
    Mae Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn cefnogi llywodraeth yr Alban yn ei bwriad i gyflwyno mesurau sy’n cynnwys isafswm prisio, gwahardd ymgyrchoedd anghyfrifol fel ‘dau-am-un’, neu ‘hynny fedrwch chi yfed am £5’ ayb. Dywedodd Wynford Ellis Owen, prif weithredwr y Cyngor, “Wrth groesawu’r camau hyn fydd, fel mae tystiolaeth yn awgrymu, yn achub miloedd o fywydau, fyddwn i yn mynd gam ymhellach a galw am waharddiad byd-eang ar bob hysbysebu cynnyrch alcoholaidd.” Ychwanegodd Wynford Ellis Owen, sydd ei hun wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu rhai o’r camau hyn yng Nghymru, “bod tystiolaeth yn awgrymu y byddai gwaharddiad byd-eang ar bob hysbysebu cynnyrch alcoholaidd yn cael y dylanwad mwyaf ar leihau goryfed, yn arbennig ymhlith yr ifanc.”

    Amcangyfrifir fod mwy na chwarter plant Cymru wedi meddwi o leiaf ddwywaith erbyn eu bod  yn 13 oed; a bod pobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed yn defnyddio mwy o alcohol na phobl ifanc o’r un oedran mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Yn ogystal, amcangyfrifir fod 64,000 o blant yn cael eu heffeithio gan broblemau alcohol eu rhieni.  Mae 1,100 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i broblemau iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol. Dywedodd Wynford “Mae’r ystadegau hyn yn frawychus ac mae’n bryd i lywodraeth y Cynulliad fabwysiadu’r un mesuriadau a llywodraeth Holyrood; yn bwysiach dylent efelychu eu sel a’u brwdfrydedd i daclo, o bosib, y broblem gymdeithasol fwyaf sy’n ein wynebu ni fel cymdeithas.”

     

     


  • blank
    Dilynwch ni ar Twitter
    Click here for our daily Blog
    ------------------------------
    William White Papers

    Alcohol, it's no joke
    Mae'n digon hawdd i chwerthyn ar yr effaith mae alcohol yn gallu cael, ond mae'n digon hawdd anghofio bod alcohol yn gallu gadael ein hieuenctid yn agored i newid. Nid yw'n jôc.

    the road to god
    Cliciwch yma am gymorth hunan-fyfyrio.

    --------------------------------
     
    mainimage

       alcohol   love and sex   Drugs      
      Alcohol
    Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o alcohol a dibyniaeth
      Cariad a rhyw
    Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth rhyw a chariad
      Cyffuriau
    Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o, a dibyniaeth ar, gyffuriau
      Gor/Tan fwyta
    Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnyddio bwyd
      Gamblo
    Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth gamblo