Ynghylch dibyniaeth ar gariad a rhyw
Cariad & Rhyw : Ystyriwch gael help os ydych yn ateb “ydw” i unrhyw un o’r cwestiwynau isod…
- Ydech chi’n esgeuluso cyfrifoldebau ac ymrwymiadau fel gwaith, teulu a iechyd er mwyn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol neu ramantus ?
- Ydech chi’n meddwl yn obsesif am ryw neu ramant hyd yn oed pan nad ydych am wneud hynny ?
- Ydech chi’n cymryd rhan mewn carwriaethau un-nos ac/neu yn cael perthnasau rhywiol y tu allan i’ch prif berthynas ?
- Ydech chi’n cynnal mwy nag un perthynas yr un pryd neu â’r angen i fod mewn perthynas drwy’r amser ?
- Ydech chi’n defnyddio saunas, parlyrau tylino’r corff neu’n talu am ryw ?
- Ydech chi’n hunan-leddfu nes niweidio’ch hunan yn gorfforol neu or-flino ac/neu mewn llefydd cyhoeddus gan gynnwys eich car ?
- Ydech chi’n treulio oriau yn edrych neu’n prynu pornograffi, mewn cylchgronnau, ar y we neu ar y teledu a’r DVD ?
- Oes gennych gasgliad o ddeunydd pornograffic (cylchgronnau, DVD, neu ffeiliau ar eich disc caled)?
- Ydech chi’n colli neu’n niweidio eich perthnasau oherwydd eich ymddygiad rhywiol ?
- Ydech chi’n eich cael eich hun – neu allech chi ffeindio’ch hun – mewn trwbwl gyda’r heddlu oherwydd eich ymddygiad ?
GALWCH HEDDIW AM SGWRS GYFRINACHOL AC ASESIAD PROFFESIYNOL OS TEIMLWCH CHI FOD PROBLEM GENNYCH GYDA CHARIAD A RHYW
029 2049 3895
NEU, EFALLAI Y BYDDAI’N WELL GENNYCH FFONIO CAETHIWED I RYW A CHARIAD ANHYSBYS (Y D.U) AR 07951 815 087 (galwadau cost lleol) |