Rhai llythyrau a yrrwyd ar ran y Cyngor i'r wasg
Trachwant a chamddefnydd alcohol yn gyfuniad marwol
Mae gen i bob cydymdeimlad gyda changhennau tafarndai D Wetherspoon yn eu hymdrech, fel y dywed John Hastings o’r Gymdeithas Gwrw a Thafarndai “i aros mewn busnes, cadw’n swyddi yn ein sector a chystadlu mewn marchnad gystadleuol iawn”. Mae’n rhaid bod perchnogion tafarndai’n anobeithio yn ceisio cystadlu mewn sefyllfa ddiennill gyda phrif noddwyr sbri-yfed y wlad hon - yr archfarchnadoedd – gyda’u strategaeth marchnata annymunol o dan-brisio bwriadol ar alcohol er mwyn ein gwneud i yfed mwy, wrth i alcohol gael ei normaleiddio fwyfwy. Hoffwn, fodd bynnag, pe bai John Hutson, prif weithredwr Wetherspoon’s, wedi bod yn fwy gonest yn ei osodiad. Cyfiawnhaodd werthu cwrw am 99c y peint “am gyfnod penagored” yn eu 713 tafarn drwy’r DU fel helpu pobol i wynebu’r wasgfa economaidd “ i fwynhau ymweliad â thafarn Wetherspoon heb iddo gostio gormod iddyn nhw”.
Mae Alcohol, fodd bynnag, eisioes yn costio gormod i’w gwsmeriaid a’r wlad – ac mae’n costio mwy nag arian. Gall prisio diodydd i lefelau 1989 achosi mwy o bobol i yfed gormod a diweddu yn yr ysbyty : mae trachwant ac alcohol yn gyfuniad marwol.
Mae ffigyrau diweddar a gafwyd gan AS y Democratiaid Rhyddfrydol Paul Burstow yn dangos fod mynychu ysbyty am afiechyd iau alcoholig ymhlith y grwp oedran 18 - 40 wedi dyblu mewn llai na 10 mlynedd gyda 6,495 claf yn mynd i’r ysbyty yn 2006-07, yn wahanol i 2,967 yn 1997-98. Tu ôl i’r ffigyrau brawychus hyn am ddynion a menywod ifanc mae ‘na gostau dynol ac ariannol enfawr -. £2.7bn y flwyddyn yw’r gost ariannol i’r GIC, tra bo’r gost yn nhermau anhapusrwydd, y niwed cudd i deuluoedd ifanc a ffrindiau – a’r problemau cymdeithasol i gymdeithas yn gyffredinol – yn anfesuradwy.
Yn ôl Strategaeth Camddefnyddio Sylweddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae hanner dynion a threian o fenywod Cymru yn datgan defnyddio alcohol yn uwch na’r canllawiau a argymellir. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad felly bod marwolaethau cysylltiedig gydag alcohol yng Nghymru wedi dyblu yn y pymtheng mlynedd diwetha. Mae 1,100 o bobol bob blwyddyn yn marw o glefydau cysylltiedig ag alcohol. .
Mae ymchwil y Llywodraeth wedi dod i’r casgliad mai’r ffordd orau i daclo’r broblem yw i godi cost alcohol : mae 7% o’r boblogaeth gyfan yn yfed treian o’r cynnyrch alcohol mewn blwyddyn. Mae astudiaethau’n amcangyfrif y byddai codiad treth o 2c uwchben graddfa chwyddiant, dros gyfnod o 5 mlynedd, yn arbed 3250 o fywydau gan bod codi pris alcohol yn targedu’r 7%bregus yma’n uniongyrchol.
A beth mae JD Wetherspoon yn ei wneud? Gostwng pris alcohol i’r union grwp hwn pan fo prisiau ar draws y diwydiant eisoes 65% yn is mewn termau real nac yn 1980. Faint mwy fydd yn marw, felly, o ganlyniad i drachwant Wetherspoons ?
A prhyd, o, pryd fydd y llywodraeth yn ymyrryd i orfodi system reoleiddio stadudol ar y diwydiant yfed sydd wedi arddangos dro ar ôl tro ei fod yn methu rheoleiddio ei hun?
1. Parthed llythyr Chris Dafis - Golwg
2. Pam nad oes neb yn ateb y cwestiwn syfaenol?
3. Trachwant a chamddefnydd alcohol yn gyfuniad marwol
4. Camddefnydd Alcohol
5
. Alcoholiaeth - y salwch teuluol
6. Llythyr i'r Cymro - 18fed Awst
7. Llythyr Madog Mwyn - Hydref 2009 |