Hwn, llall ac arall
DWEUD EI DDWEUD - 19
Efelychu dwy ddafad
Ro’n i yn y siop leol y dydd o’r blaen a daeth bachgen bach i mewn hefo darn ugain ceiniog yn ei law. Problem y boi bach, mi sylwais i, oedd gwybod sut i’w ddefnyddio. Oherwydd roedd yna gryn ddwsin neu ragor o bethau yr hoffai’u cael. Ond dim ond un darn ugain ceiniog oedd ganddo; am hynny, roedd penderfynu beth i’w wneud ag o yn dipyn o gamp.
Yn ddiweddarach, ro’n i wedi blino gormod i estyn am lyfr, felly, dyma fi’n dweud wrthyf fy hun, ysgwn i beth sydd ar y teledu heno? A dyma estyn am y Radio Times, ac mi welais i bod rhaglen addawol iawn ar BBC 1 rhwng wyth a hanner awr wedi wyth; ac oh! un dda iawn ar BBC 2, hefyd, yr un amser. A go drapia ulw! ro’n i eisiau gweld y rhaglen ar S4C hefyd. Ond dyna ni, un set deledu oedd gen i, ac un rhaglen yn unig fedrwn i ei gwylio ar y tro. Prun o’r tri ddewiswn i? Dyna’r cwestiwn.
Ac wrth syllu i fflamau’r tân mi ffeindiais i fy hun yn yr un helbul yn union â’r hogyn bach hwnnw yn y siop yn gynharach. Ac wrth chwerthin ar ben fy hun, mi sylweddolais yn sydyn mai dim ond un bywyd sydd gen i hefyd. A mod i wedi dod i’r byd yma fel y daeth y boi bach i mewn i’r siop honno, a bod yna lawer o bethau y buaswn i’n lecio gwario mywyd er mwyn eu cael.
Dau gobstopper brynodd yr hogyn bach. Buasai bachgen bach arall wedi prynu gwerth ugain ceiniog o jelly babies. Nid yr un peth sydd at ddant pawb.
Felly, hefyd, hefo bywyd – mae rhai am wario’u bywydau i’r peth yma, eraill i’r peth arall. Ond beth petaem ni’n troi at yr Iesu a gofyn am ei farn o? Be wna i hefo mywyd, Iesu? Wel, dyma’i ateb: “Y neb a fynno fod yn bennaf yn eich plith chwi, bydded was i bawb.” Bod yn was i bawb, felly, dyna gyfrinach bywyd: gostyngeiddrwydd, hwnna ydio!.
Daeth dwy ddafad i gyfarfod â’i gilydd un tro ar rimyn main o graig uwchben dwnjwn mawr. Fedrai’r ddwy ddim pasio’i gilydd. Be ddaru nhw, meddech chi? Dechrau cwffio a chornio’i gilydd, a’r ddwy yn syrthio dros y dibyn i’r dwnjwn islaw? Nage. Wyddoch chi beth wnaethon nhw? Mae un ddafad yn mynd ar ei phenliniau ac yn gorwedd yn fflat ar lawr, ac mae’r ddafad arall yn camu’n ofalus a distaw drosti. Dyna ichi wers mewn gostyngeidrwydd.
Biti na fase ni i gyd, a holl genhedloedd y byd ym 2009 yn medru efelychu ffordd y ddwy hen ddafad. Byddai problemau’r Dwyrain Canol, Affrica a’r cenhedloedd bychain i gyd wedi eu datrus wedyn, a byddai’r byd yma yn lle llawer brafiach i fyw ynddo.
Un bywyd, gyda llaw, sydd gan Barack Obama. Fydd o’n efelychu esiaml y ddwy ddafad, tybed?
Wynford Ellis Owen
Cyfranwch, os gwelwch yn dda, i ”bethau ysbrydol” a’n helpu i ‘brofi’r pethau rhyfeddol hynny’ drwy glicio ar y ddolen hon.
|