Grwp Cymorth Teuluoedd
Ar gyfer pwy?
Unrhyw berthynas, partner neu ffrind i rywun sydd â, neu wedi cael problem yfed neu gyffuriau
Ar gyfer beth?
I gynnig cymorth, datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a gwella sgiliau ymdopi drwy newid agweddau ac ymddygiad
Pwy sy’n ei redeg?
Cynhgorwr profiadol
Pa amser?
Nosau Mawrth o 7pm – 9pm yng nghanolfan Cyngor Cymru yn 58 Richmond Road, Caerdydd CF24 3AT
Beth sy’n digwydd?
Rhoddir amser i bawb gael dweud sut mae ef neu hi’n teimlo, sut maen nhw’n ymdopi, a rhoddir cymorth lle mae ei angen. Treulir gweddill y noson yn trafod pynciau penodol fel : sut mae dibyniaeth yn effeithio pawb ; rheoli dicter ; sut i gamu nôl a gosod ffiniau cadarnach ; codi hunanwerth ayb.
Oes angen imi fynychu pob sesiwn?
Na, ond mae mynychu cyson yn rhoi mwy o gymorth a chefnogaeth, yn cadw’r momentwm i fynd ac yn cynyddu effeithiolrwydd
Beth i’w wneud os ydw i am fynychu?
Ffonio Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ar 029 2049 3895 a gofyn am siarad gyda Wynford neu drwy ebost. Os oes yn well gennych, byddwn yn trefnu i chi gwrdd â chynghorwr cyn dechrau’r noson. |