Mwy ynghylch y ‘Salwch Teuluol’
Credwn nad oes llawer o bwrpas eithrio’r person dibynnol ar alcohol neu gyffuriau a’i drin ef neu hi mewn ynysrwydd o’r sefyllfa deuluol. Byddai gwneud hynny’n ei adael ef neu hi mewn perygl o ailgychwyn wrth fynd yn ôl i’r system oherwydd fel rheol mae gan deuluoedd gyflwr y maen nhw’n dychwelyd iddo os yw digwyddiadau’n eu lluchio oddi ar eu hechel – cyflwr o’r enw ‘homoeostasis’ – mae eu system wedi ei datblygu dros lawer o flynyddoedd i “gefnogi’n” ddiarwybod yr alcoholic sy’n dal i yfed ac nid yr alcoholic sy’n gwella. Bydd cynghorydd,felly, yn annog teuluoedd (pob aelod o’r teulu) i edrych ar y ‘broblem’ yn wahanol – ddim mewn ynysrwydd, ond fel rhan o’r llun cyfan ; ac yn helpu symud y cyfrifoldeb dros newid oddi wrth un unigolyn (fel rheol y person dibynnol ar alcohol neu gyffuriau) i bawb sy’n rhan o’r system neu’r teulu hwnnw.
Fan lleiaf, rhaid i aelodau’r teulu ddeall hyn a gwerthfawrogi’r angen am newid. Mae cael aelodau’r teulu I gyfathrebu a dechrau archwilio ac adolygu pwy sy’n cario cyfrifoldeb am beth , yn aml iawn, yn chwarae rhan fawr yn y broses wella gychwynnol i’r teulu. |