Ynghylch dibyniaeth ar gyffuriau
Cyffuriau : Ystyriwch chwilio am help os ydech chi’n ateb “ydw” i unrhyw un o’r cwestiwynau isod…
- Ydech chi’n defnyddio cyffuriau er mwyn dianc o broblemau sy’n ymddangos yn rhy fawr i’w goresgyn ?
- Ydi’ch defnyddio yn amharu ar eich bwyta a’ch cysgu ?
- Ydech chi’n ei chael hi’n anodd stopio/rheoli eich defnydd o gyffuriau ?
- Ydech chi’n ffeindio bod eich defnydd o gyffuriau yn achosi, neu wedi achosi, aflonyddwch yn eich teulu neu’ch man gwaith ?
- A yw pobol sy’ ddim yn defnyddio cyffuriau yn dweud bod eich defnydd o gyffuriau allan o reolaeth ?
- Ydech chi, neu ydech chi wedi, newid un cyffur am un arall ?
- Ydech chi’n cymryd mwy a mwy o’r cyffur I gael yr effaith iawn ?
- Ydech chi , neu ydech chi wedi, cymryd un cyffur er mwyn dod dros effaith un arall ?
- Ydech chi’n dwyn cyffuriau, neu ydech chi wedi dwyn erioed er mwyn cael gafael ar gyffuriau ?
- Ydech chi’n mynd I drwbwl gyda’r heddlu, neu ydech chi wedi cael eich arestio yn sgil defnyddio cyffuriau ?
GALWCH HEDDIW ER MWYN CAEL SGWRS GYFRINACHOL AC ASESIAD PROFFESIYNOL OS YDECH CHI’N TEIMLO EFALLAI BOD GENNYCH BROBLEM GYDA CHYFFURIAU
029 2049 3895
NEU EFALLAI Y BYDDAI’N WELL GENNYCH FFONIO RHIF CENEDLAETHOL CA: 0845 3733366 neu 020 7730 0009 (galwadau cost lleol) |