blank
bla nk
blank

The Living Room Cardiff - Yr Ystafell Fyw Caerdydd
Gorolwg ar y ganolfan-ddydd ar gyfer gwellhad.

Bydd y Living Room Cardiff / Yr Ystafell Fyw Caerdydd* arfaethedig yn ganolfan ddydd ar gyfer gwellhâd, yn cynnig gwasanaeth dwyieithog am ddim yn ymgorffori rhaglenni wedi eu strwythuro i unrhyw un yn profi anawsterau mewn perthynas ag alcohol, cyffuriau (wedi eu rhagnodi neu anghyfreithlon), neu unrhyw ddibyniaeth arall, fel anhwylder bwyta, caethiwed i gariad a rhyw, gamblo a hunan-niweidio.

Bydd The Living Room Cardiff/Yr Ystafell Fyw Caerdydd yn cynnig gwasanaeth darpariaeth Tier 3 i gleientau o Dde Cymru gan fwyaf.

Gwahaniaethau Allweddol yw:

  1. Trin y salwch o fod yn gaeth (nid dim ond y cyffur/dibyniaeth o ddewis). Mae’r agwedd yma’n cyfrannu at sefydlu gwellhâd hirdymor, yn rhydd o groes-gaethiwed. .
  2. Ffocws ar faterion bywyd y cleient (nid dim ond anghenion yn uniongyrchol gysylltiedig â dibyniaeth). Mae’r newid o hen brosesau meddwl a hen batrymau ymddygiad, y codi hunan-barch a hunan-werth, yn allweddol i broses wellhâd strwythuredig y Ganolfan arfaethedig.
  3. Darpariaeth rhaglen wellhâd wedi ei strwythuro am bum niwrnod yr wythnos, ar gael ar unwaith i’r cleient.
  4. Darpariaeth Crèche unigryw, fydd yn galluogi rhieni plant ifanc sydd wedi eu hynysu, i gyslltu â’r gwasanaeth hwn. Mae gan ardal Caerdydd a De Morgannwg raddfa uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o feichiogrwydd ymhlith yr arddegau. Mae camddefnyddio sylweddion yn aml yn ffactor sy’n cyfrannu at y beichiogrwydd heb ei gynllunio. .
  5. Darparu gwasaneth i’r grwp 13 - 17
  6. Creu a chynnal cynllun-gofal wedi ei deilwra i bob cleient. Bydd y cynllun hwn yn aml yn cael ei adolygu ar y c?d gan y tim a’r cleient.
  7. Darparu gwasanaethau ôl-ofal. Bydd cefnogaeth barhaus ar gael i bob cleient wrth iddyn nhw ail-ymuno gyda’u cymuned.
  8. Bydd yr holl staff sy’n gweithio gyda chleientiaid wrthi’n gwella ac yn gweithio’r rhaglen 12 cam am o leiaf 5 mlynedd yn eu bywydau eu hunain. Byddan nhw i gyd yn gynghorwyr proffesiynol wedi eu cymhwyso.
  9. Bydd gwasanaeth dwyieithog ar gael.
  10. Ethos ac awyrgylch. Bydd y gwasanaeth arfaethedig wedi ei seilio ar dderbyn ac ymddiried yn llwyr yn yr unigolyn, o ba bynnag gefndir neu angen. Bydd yn croesawu ; ddim yn gwahaniaethu ; yn anfeirniadol ; ac wedi ei seilio ar werthoedd Crisnogol (fodd bynnag rhoddir parch llwyr I grêd unigol staff a chleientiaid, ac ni wthir Cristnogaeth ar gleientiaid) ; unigoliaeth (ynghyd â grwp cymorth The Living Room/Yr Ystafell Fyw fydd yn cynnig cynghori un-i-un a chefnogaeth cynghorwr wedi eu hyfforddi) ; hyblygrwydd (bydd y prosiect yn cynnig gwasanaeth unigryw ar gyfer anghenion unigol i hwyluso ymwneud llawnach gyda bywyd) ; a syniad o berthyn ( mae’r prosiect arfaethedig yn cynnig rhoi cefnogaeth personol a moesol drwy staff wedi eu hyfforddi sy’n arbenigo mewn trin problemau alcohol).

mwy +

blank
Dilynwch ni ar Twitter
Click here for our daily Blog
------------------------------
William White Papers

Alcohol, it's no joke
Mae'n digon hawdd i chwerthyn ar yr effaith mae alcohol yn gallu cael, ond mae'n digon hawdd anghofio bod alcohol yn gallu gadael ein hieuenctid yn agored i newid. Nid yw'n jôc.

the road to god
Cliciwch yma am gymorth hunan-fyfyrio.

--------------------------------
 
mainimage

   alcohol   love and sex   Drugs      
  Alcohol
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o alcohol a dibyniaeth
  Cariad a rhyw
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth rhyw a chariad
  Cyffuriau
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o, a dibyniaeth ar, gyffuriau
  Gor/Tan fwyta
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnyddio bwyd
  Gamblo
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth gamblo