Dibyniaeth
Felly beth yw’r broses sy’n gyrru’r alcoholic at dibyniaeth ? Yn ei draethawd hir, ‘Darkness Visible, a memoir of madness’ , disgrifiodd William Styron y broses fel hyn ”Roedd alcohol yn bartner h?n amhrisiadwy i ‘neall i, yn ffrind ro’n i’n ei geisio bob dydd – yn ei geisio, dwi’n gweld nawr, fel ffordd o dawelu’r pryder a’r arswyd gwaelodol yr o’n i wedi eu cuddio gyhyd rhywle yn nwnsiwn fy ysbryd”. Darganfu William Styron, yn gynnar iawn yn ei fywyd, bod alcohol yn “ffrind” effeithiol, yn ei helpu i newid ei hwyliau. Yn ei wneud i deimlo’n well. Dyma sut mae’r yfwr cymdeithasol, yn ddiarwybod, yn dysgu bod cemegau’n gallu newid sut mae’n teimlo. I’r rhan fwyaf o bobol, dyna ddechrau patrwm bywyd o “yfed cymdeithasol” ( neu yfed cymhedrol). I’r ychydig anffodus fodd bynnag, mae’r profiad yn borth at y chwalfa lwyr y mae dibyniaeth gemegol yn ei chreu ar y defnyddiwr ei hun ac ar ei deulu, sy’n rhannu ei drasiedi.
Mae’r rhesymau am fynd yn gaeth yn gymysgedd o wahaniaethau unigol a digwyddiadau bywyd. Mae’r rhai sy’n mynd yn gaeth, fodd bynnag, yn aml yn dechrau ‘defnyddio’ er mwyn rhwystro’r teimladau hynny sy’ ynghlwm â thrawma emosiynol. Ar ôl cydio, mae’r gaethiwed yn effeithio’r unigolyn yn llwyr. |