Bod yn gaeth a dibyniaeth
Ar lefel feiolegol – mae rhai o weithredoedd yr ymennydd yn cael eu cyfaddawdu gan effeithiau pleserus ac ysgogol y dewis-gyffur, yn arwain at newid prosesau meddwl a dibyniaeth.
Mae’r person dibynnol yn atal teimladau o gariad, ymddiriedaeth a thosturi…
Ar lefel y meddwl – mae rhesymoli’r ymddygiad yn datblygu wrth i’r unigolyn ddysgu bod yr ymddygiad yn dileu dros dro y boen wreiddiol a’r cywilydd o ddefnyddio. Mae cysylltiadau cryf yn datblygu rhwng defnyddio a’r amgylchfyd. Mae’r prosesau meddwl hyn yn atgyfnerthu dibyniaeth gorfforol. Fodd bynnag, mae ei resymoli yn diweddu drwy roi cam-ddarlun mawr iddo o realiti, a dim yn fwy na’r teimladau poenus y mae wedi eu hatal er mwyn amddiffyn ei hun o feirniadaeth, oherwydd, wrth wneud hynny mae hefyd wedi atal y teimladau positif o gariad, ymddiriedaeth a thosturi ayb – teimladau allweddol ar gyfer ffurfio perthnasau iach.
Ar lefel ysbrydol felly – mae ymddygiad caethiwus yn torri’r cysylltiadau rhwng unigolyn a’i gyd-ddyn a’r byd ; yn rhwystro ei allu i gysylltu mewn ystyr bwrpasol yn ei ddatblygiad ei hun ac mewn perthnasau. Mae’r teimlad ofnadwy o unigrwydd a hunan-gasineb yn porthi’r caethiwed.
Fyddai dim o’r uchod yn bosib heb rai rheolau y mae’r teulu cyfan yn eu dilyn, sy’n hwyluso’r yfed a’r/neu’r cymryd cyffuriau/dibyniaeth arall. Sef : “Peidiwch Siarad” “Peidiwch Teimlo “,” Peidiwch Meddwl ” – a’r rheswm pam maen nhw’n cael eu mabwysiadu yw oherwydd nad yw’n “ddiogel” i ymarfer yr un ohonyn nhw – byddai gwneud hynny yn peryglu’r union seiliau simsan y mae’r gaethiwed wedi ei hadeiladu arni. Yn ddiddorol iawn, does neb yn cyfeirio at y broblem ei hun : yr adict neu’r alcoholic ayb.
(Rydym wedi cyfeirio at yr alcohol a’r/neu’r person dibynnol ar gyffuriau yn y ffurf wrywaidd er mwyn hwylustod a dim rheswm arall)
Wrth glicio ar y delweddau islaw byddwch chi’n dysgu mwy am eich dewis gyffur chi… |