Derbyn cyfrifoldeb
Rydym yn apelio’n uniongyrchol at Enwadau, Elwysi ac unigolion drwy Gymru I gefnogi gwaith y Cyngor drwy gyfraniadau ariannol. Bydd hynny’n sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gwireddu’n llawn ; mae eich cydweithio ymarferol chi yr un mor hanfodol i’w wireddu hir-dymor. Hoffwn nodi, hefyd, bod y Cyngor yn gweithredu ar ran yr eglwysi, a bod angen i’r cymunedau Cristnogol dderbyn cyfrifoldeb am eu rhan nhw ‘n y frwydr.
I’n helpu ni ar yr adeg cynhyfus yma rydym wedi penodi Grwp Polisi Ymgynghorol (PAG) i gynghori’r Cyngor ar weithredu’r strategaeth 3 mlynedd a chyfeiriad ei bolisiau yn y dyfodol. Aelodau’r GPY yw:
- Tim Leighton, Cyfarwyddwr Canolfan newydd Action on Addiction ar gyfer Astudiaethau Trin Caethiwed.
- Athro David Clark, Cyfarwyddwr Wired In, ac Athro Emeritws mewn Seicoleg .
- Dr David Best, Uwch ddarlithydd mewn caethiwed yng nghanolfan seiceiatreg Prifysgol Birmingham.
- Colin Macdonald CA (Cyfrifydd Siartredig)
- Gwen Emyr, B.A. Gweithwraig Gristnogol yn ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos.
- Geraint Rees, M.A., sy’n gyfrifol am y gwasanaeth Dysgu Gydol Oes, sy’n cynnwys y gwasanaeth ieuenctid.
Am ragor o wybodaeth am aelodau’r GPY ac Ymddiriedolwyr ac aelodau o'r Pwyllgor Gweithredu, defnyddiwch y rhestr ar y chwith. |